Cyfrifoldebau

Mae Cyngor Cymuned Llanddarog yn ceisio cymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros les y gymdogaeth leol ac nae’n gweithio ar lefel lleol.  Mae’n haen o’r llywodraeth leol sydd agosaf at y bobl, sef haen islaw’r Cyngor Sir. Mae ei gwaith yn syrthio i dri phrif gategori:

a) cynrychioli’r gymuned leol
b) rhoi gwasanaethau sy’n ateb anghenion lleol
c) ymdrechu i wella ansawdd bywyd o fewn y gymuned

Mae’r prif swyddogaethau a gyflawnir gan y Cyngor yn cynnwys:

Cynnal mannau agored

Ystyried materion cynllunio

Gweithio ar y cyd â Phriffyrdd y Sir ar fesurau arafu traffig a gwelliannau i’r briffordd

Gweithio gyda’r heddlu i ddiogelu’r gymuned

Delio â materion lleol a godwyd gan y gymuned

Cynnal a chadw ac ynioli goleuadau troedffyrdd

Darparu cymorth ariannol ar gyfer coed a goleuadau Nadolig

Darparu cymorth ariannol ar gyfer mudiadau gwirfoddol amrywiol lleol

Darparu cymorth ariannol ar gyfer Elusennau yn y gymuned

Darparu a chynnal seddau cyhoeddus a hysbysfyrddau

Penodi cynrychiolwyr i nifer o gyrff lleol ac allanol

Enwebu cynrychiolwyr i’r ysgol gynradd leol

Llochesi bws / aros

Cydnabod cyrhaeddiad trwy ddarparu  Gwobr Person Ifanc yn flynyddol

Cydnabod cyrhaeddiad trwy ddarparu Gwobr Gymunedol yn flynyddol

Comisiynu astudiaethau a gwaith mewn partneriaeth